2/17/2009

Dychwelyd o'r anialwch

Mae fy mlog wedi bod yn ddistaw ers mis Tachwedd, ond peidiwch â phoeni, mae popeth yn iawn. Ond rwyf wedi bod yn brysur yn diweddar. Dyma rhai o ddigwyddiadau ym myd bach y Mochyn Daear ers i fi nodi'r etholiad ar y wefan hon:

*Fe aethon ni â Rhiannon i'r ysbyty am brofion. Popeth yn iawn, hyd y gwyddom, ac mae hi'n dal i fynd o nerth i nerth.

*Cawson ni amser hyfryd yng nghwmni mam a llys-dad Jena dros yr wyl Diolchgarwch. Gweriniaethwr i'r garn, doedd gan fy mam-yng-nghyfraith ddim byd i'w ddweud am yr etholiad.

*Rhan cyntaf o ddrama'r rhieni. Bydd fy llys-dad yn ymddeol ym mis Mawrth (llongyfarchiadau iddo), ond roedden nhw'n poeni am sawl peth yn yr UDA (costiau gofal iechyd a.y.y.b.) Mae fy mam wedi bod yn hiraethu am wledydd Prydain ers blynyddoedd. Fe wnaethon nhw ymweld â Chymru a Lloegr cyn y Nadolig, er mwyn chwilio am dai a dechrau paratoi ar gyfer dychwelyd i'r hen wlad. Ond aflwyddiannus oedd eu halltaith ar ôl iddyn nhw fethu â ffeindio unrhywbeth at eu dant.

*Roeddwn i'n ceisio astudio ar gyfer yr MA, gweithio trwy'r dydd, a phoeni am gyflwr yr economi a'r dyfodol ym mis Rhagfyr. Roedd y Nadolig yn ddigon neis, ac yn dipyn o ddianc rhag ofnau y byd mawr.

*Ail ran o ddrama'r rhieni. Fe aethant yn ol i chwilio am dai yn Sir Fynwy a Sir Henffordd. Yn agos iawn at brynu ty (gwerthwyd eu ty yn Cincinnati ym mis Ionawr, ar ôl deg diwrnod ar y farchnad - gwyrthiol), torrodd trafodaethau gyda'r adeiladwr i lawr. Dychwelasant i'r UDA ac ailystyried y dydd cyn yr ystorm eira enfawr.

*Yn oerni misoedd Ionawr a Chwefror, rwyf wedi bod yn gweithio, cysgu, ac yn poeni, am fy rhieni, am fy mrawd a'm chwaer, am Jena a Rhiannon. Am y byd i gyd. Mae'r newyddion wedi fy nychryn. Weithiau, roedd angen i fi osgoi'r newyddion er mwyn teimlo'n well. Ac rwyf wedi bod yn ceisio i astudio, a dychwelyd at draethawd hir am Gerallt Gymro.

*Trydydd rhan o ddrama'r rhieni. Tipyn o sypreis. Y maent wedi penderfynu i symud i'n pentre ni, ac wedi prynu ty chwarter milltir pell i ffwrdd. Gallwn i'w weld o ben ein stryd! Mewn gwirionedd, roedd yn dipyn o siom ac yn sioc yn gyntaf. Rydyn ni wedi sefydlu ein byd bach ni yma yn Spring Green -- gallai dyfodiad y rhieni i rywle mor agos atom greu tensiynau? Hen straeon teuluol yn disgrifio'r sefyllfa tro ar ôl tro -- y rhieni yn ceisio rheoli bywydau eu plant cyflawndwf a'r teulu ifanc. Rwyf wedi sylweddoli pa mor bwysig yw'r angen i fi a Jena gadw perthynas gref ac yn agored. Teimlaf yn well nawr, ac yn dechrau edrych ymlaen at fyw gyda'r rhieni rownd y cornel, ond mae 'na dipyn o siom o hyd. Roeddwn i'n edrych ymlaen at y posibilrywdd o wneud ymweliad â nhw rhywle yng Nghymru (neu Loegr). Beth bynnag y teimladau cymysg, byddaf yn eu croesawu nhw â breichiau agored.

Os ydych chi wedi darllen hyd yma, mae gyda chi dipyn o amynedd, dwi'n credu. Hen bryd i chi ffeindio rhywbeth llawer mwy ddiddorol i'w ddarllen! Hen bryd i fi ddychwelyd at yr astudiaethau. Mae Gerallt yn aros amdanaf.

11/05/2008

Daeargryn democrataidd


Llongyfarchiadau i arlywydd newydd yr UDA, Barack Obama. Llongyfarchiadau, America, a diolch o galon i'r miliynau sydd wedi cymryd rhan mewn dydd hanesyddol a newid cyfeiriad eu gwlad. Rhaid i fi gyfadde, nad oeddwn i'n disgwyl i'r seneddwr ifanc o Illinois gipio'r etholiad mewn buddugoliaeth mor enfawr. Mae Americanwyr wedi edrych tu hwnt tactegau cas y gorffenol, a dewis arlywydd fydd yn atgyweirio enw da eu gwlad yn y byd. Roedd yn wefreiddiol i glywed Arlywydd (wel, President Elect) ddweud yn blwmp ac yn blaen ei fod o blaid gwneud rhywbeth difrifol am newid hinsawdd (er nid yw ei agenda amdano'n un berffaith) ac yn cydnabod lle pobl hoyw yng nghymdeithas Americanaidd. Ond credaf y gall America symud ymlaen, troi tudalen anhapus yn ei hanes, a dychwelyd i'r rhinweddau sydd wedi ei gwneud yn wlad gobaith a chyfle, ac enghraifft i'r byd o ddemocratiaeth a phosibilrywdd. Fe ddaeth geiriau Obama (a McCain, wrth addef yn osgeiddig ei fod wedi colli) â dagrau i lygaid fy ngwraig. Fe ddwedodd hi cyn mynd i'r gwely, "dwi'n ymfalchio yn fy ngwlad heno."

10/19/2008

Blas drwg

Popeth sydd angen ichi ei wybod am gyflwr presennol yr economi Americanaidd. Ymgais i apelio at Joe Sixpack, ond efallai nid synnwyr cyffredin yn nhalaith sy'n enwog am feddwi'n gachu.

Ar y ffordd allan o Dodgeville, Wisconsin, wythnos yn ôl.

6/22/2008

Y dilyw mawr


Efallai mae rhai ohonoch chi wedi clywed am y llifogydd erchyll yng nghanol yr UDA yn ddiweddar. Mae Wisconsin wedi cael ei effeithio'n ddifrifol, gyda miloedd o erwau o gnydau wedi eu dinistrio gan y dwr. Yn ein sir ni, Sauk County, difrodwyd 95% o ffyrdd gan ddyfroedd uchel yr afonau a nentydd. Mae llyn yn Wisconsin Dells, un o brif atyniadau twristaidd y dalaith, yn wag nawr wedi i argae gael ei dorri. Bu rhaid i lawer o bobl adael eu tai, rhai mewn cychod, ac nawr maen nhw'n dychwelyd i'w cartrefu. Mae'n bosib iddyn nhw gael tipyn o arian oddiwrth y lywodraeth ffederal, ond bydd angen mwy nag arian i'w helpu i ailadeiladu eu bywydau.


Yn ein hardal ni, mae sawl stryd tua'r gogledd o'r pentre tan ddwr o hyd. Ond rydyn ni wedi bod yn lwcus iawn. Dim dwr ar ein stryd ni, ond roedd cae ar ben y stryd yn edrych fel llyn tan ganol yr wythnos. Ac y mae llawer o'n cymdogion wedi cael dwr yn eu seleri.


Gallai rhywbeth da ddod allan o'r trychineb hwn? Wel, mae pobl yma wedi bod yn gweithio gyda'u gilydd i helpu'r rhai sydd wedi cael eu heffeithio'n ddrwg. Mae rhai'n codi cwestiynau hefyd am sut y gallai datblygiad dros y blynyddoedd diweddar wedi gwneud y problem yn waeth. Wrth iddyn nhw drwsio'r briffordd sawl blwyddyn yn ôl, fe'i dynnwyd cwlfer a oedd yn angenrheidiol er mwyn gadael i ddwr lifo i lawr y bryniau i'r afon.



Gobeithio y bydd pethau'n well y tro nesa rydyn ni'n cael tri ddydd o law di-baid.

Labels: , ,

6/01/2008

Ieithoedd brodorol Wisconsin


Mae papur newydd ym Madison yn cyflwyno cyfres o erthyglau am ieithoedd brodorol y dalaith, sef Ho-Chunk neu Winnebago, Menominee, Ojibwe, Potawotami ac Oneida. Mae'r ieithoedd ar ffin cael eu colli am byth oherwydd prinder y rhai sy'n dal i'w siarad. Bydd hanes trist yr ieithoedd hyn yn gyfarwydd i siaradwyr Cymraeg ac i unrhywun sy'n ymddiddori mewn ieithoedd lleiafrifol a'u hymdrechion i oroesi yn y byd cyfoes. Mae'r erthyglau'n werth eu darllen.
Gallwch ddysgu iaith y Ho-Chunk yma.

5/18/2008

Ymweliad ag Aber a syrpréis ym mwyty Pen Dinas. A dwi'n siarad gydag acen Batagonaidd, gyda llaw.














Roedd 'na degawd wedi mynd heibio ers i fi ymweld ag Aberystwyth. Roeddwn i yng nghwmni fy nghor-ewyrth ar y pryd (a fu farw dwy flwyddyn wedyn, dwi'n trist i ddweud), a doeddwn i ddim yn cofio'r dre ar wahân i orsaf y Rheilffordd Dyffryn Rheidol.

Doeddwn i ddim yn ymwybodol o arwyddocad Aber y tro hwnnw chwaith. Llanc 16-oed di-Gymraeg, newydd symud i America oeddwn i. Doeddwn i ddim yn gyfarwydd â phwysigrwydd y brifysgol, neu'r Lyfrgell Genedlaethol Cymru, neu hanes yr ymgyrch iaith yno. Dim ond tre ddel lan môr oedd fy argraff gyntaf.

Rwyf wedi bod yn awyddus i ddychwelyd i'r dre, yn enwedig wedi i fi ddysgu'r Gymraeg ac ymddiddori mewn hanes a diwylliant fy ngwlad enedigol. Ac wrth gwrs, y Lyfrgell Genedlaethol yw'r lle gorau yn y byd i wneud gwaith ymchwil mewn materion Cymreig.

Roeddwn i'n lwcus i ffeindio rhywbeth sydd ddim ar gael yn yr UDA (neu yn Wisconsin, o leia), sef pamffled a gyhoeddwyd ym 1893 o dan y teitl "Crynodeb o hanes eglwysi Methodistiad Calfinaidd, Dosbarth Dodgeville" ffynhonell werthfawr ar gyfer ymchwilio hanes y Cymry Wisconsin.

Treuliais sawl awr yn y lyfrgell Dyddiau Mercher a Iau, ac fe ges i ginio ym mwyty Pen Dinas, lle ges i dipyn o syrpréis. Cydnabyddais i wyneb gyfarwydd o wylio S4C, Arwel Rocet Jones, ymhlith grwp o bobl yn siarad Cymraeg. Ond roedd 'na berson arall yn eistedd wrth y bwrdd, gyda gwallt hir a barf. Fe es lan i'r bar salad er mwyn cael golygfa well o'r dyn, ac i gael gywbod os mai pwy roeddwn i'n meddwl ydoedd. Sbectol, barf fawr, wyneb crwn. Neb llai na Dogfael ei hun ydoedd! Yn anffodus, doedd dim camera 'da fi ar y pryd. Fe'i adawais yn y car heb ddisgwyl achlysur fel hyn. Roedd tipyn o syndod, a doeddwn i ddim yn siwr beth i'w ddweud iddo, heblaw cyflwyniad anffurfiol a rhywbeth am bwrpas fy ymweliad a'r lyfrgell. Ond roedd neis cwrdd â fe. Nad oeddwn i'n siwr os y byddwn yn mynd i Aberystwyth neu beidio ar ddechrau yr wythnos, ond y tro nesaf, byddaf yn cynllunio'n well, er mwyn cael paned gyda Dogfael, os nad ydy rhy brysur gyda'i waith fel cynghorydd! (Llongyfarchiadau Dogfael, gyda llaw.)

Wedi i fi orffen yn y lyfrgell, es i lawr yn y dre i chwilio am "Siop y Pethe," lle arhosais am hanner awr ceisio penderfynu pa lyfr i'w brynu. Ac wrth gwrs, fe es i mewn siop swfenirs am funud i brynu anrheg fach i roi i'm modryb yn ôl yng Nghasnewydd. Siaradais Gymraeg yn y siop, a gofynodd y siopwraig i fi "o ble ydych chi'n dod?" Wedi i fi esbonio sut y dysgais i'r iaith yn America, fe ddwedodd hi fy mod yn siarad Cymraeg fel rhywun o'r Wladfa. "Mae tipyn o acen Batagonaidd 'da chi," fe ddwedodd. Diddorol iawn, on'd ydy?

5/16/2008

Llambed, Ebrill 20-24

Wrth gyrraedd Llambed ar brynhawn Sadwrn, fe es yn gyntaf i lety "Haulfan," lle arhosais trwy'r wythnos yng nghwmni'r teulu Williams. Pobl garedig go iawn ydynt, a'u llety yn fach ond yn gyffyrddus. Roeddwn i'n dipyn ansicr am fy Nghymraeg yn y dechreu, ond trannoeth penderfynais i fod yn ddewr a dechrau siarad Cymraeg iddyn nhw. Un o brif amcanion y daith oedd cael y cyfle i ddefnyddio ac ymarfer y Gymraeg, ac wedi i fi ddygyfor'r glewder, ceisiais i fanteisio ar bob cyfle i'w wneud. Wrth gwrs, nid pawb sy'n Llambed yn siarad y Gymraeg, ond mewn cwpl o ddyddiau roeddwn i'n gyfarwydd â'r llefydd gorau i fod yn Gymro Cymraeg.

Cyn yr ymweliad hwn, buais yn Llambed dim ond un waith yn ôl yn 2003, gyrru trwy'r dre i fod yn onest. Ar y pryd hwnna, nad oeddwn i'n gwybod dim byd am y brifysgol ac nad oeddwn i'n gallu dychmygu y byddwn yn ôl fel myfyriwr mewn pum mlynedd.


Bore Llun, fe es draw i Goleg Dewi Sant i gwrdd â rhai o'm athrawon, ac eisteddais i lawr gyda Jane Cartwright, tiwtor modiwl "Y Mabinogi" i drafod yr astudiaethau. Ddydd Mawrth a Mercher, fe ges i'r cyfle i gwrdd â Christine Jones, pennaeth yr Adran Gymraeg, ac Owen Thomas, fy nghynghorydd academaidd.


Gyda'r hwyr, ffeindiais fy hun yn y llyfrgell, wrth ymchwilio ar gyfer traethodau'r fodiwl Sosioieithyddiaeth y Gymraeg; ar wahân i nos Fawrth, pan es am beint yn y "Black Lion."


Teimlais yn gartrefol yn Llambed, er gwaetha'r ffaith roeddwn i'n colli Jena a Rhiannon (gwariais bunnoedd ym mlwch ffôn i lawr y stryd o'r llety, pan nad oedd rhyw hen ddyn yno clebran am oriau). Mae'n wastad yn syndod i fi sut rwy'n ffitio i mewn i gymdeithas Cymru pob tro dwi'n dychwelyd.


Sut fath o dre ydy Llambed yn fy marn? Fel y dwedais yn y post blaenorol, mae rhai o'r myfyrwyr yn cwyno am ddiflastod yno. Ond mwynheuais pob munud mewn cymuned mor dawel sy'n cynnwys y gyfoes a'r traddodiadol. Pwy all beidio â hoffi tre llawn hipis, myfyrwir a phobl geidwadol oedrannus yn cydfodoli mewn heddwch? (Wel, mae'n edrych fel tref heddychlon.)


Roedd 'na sawl peth i f'atgoffa o Wisconsin, hefyd. Mae'r ffermwyr ifainc yn gwisgo capiau "baseball"; mae 'na siop gynnau yn y dre, ac mae 'na siop lle galli brynu tatw o Johnny Cash ar dy fraich.


Ond, trwy'r wythnos, gadawais i Lambed cwpl o ddyddiau, ac ymweld ag Aberystwyth a'r ardal wledig o gwmpas Llambed. Byddaf yn dweud mwy am hyn, ac am gwrdd â blogwr enwog arall, yn y post canlynol.